Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Ymchwiliad i reoli meddyginiaethau
Nodyn o'r ymweliad â Meddygfa Tŷ Elli - Llanelli
1. Dechreuodd y drafodaeth gan gyfeirio at y camau y gellid eu cymryd i leihau gwastraffu meddyginiaethau.
2. Eglurodd cynrychiolwyr y cleifion y gall maint pecyn y meddyginiaethau arwain at wastraff, yn enwedig lle mae offer tafladwy a ddefnyddir i weinyddu'r feddyginiaeth yn cael ei ddarparu. Er enghraifft, efallai y caiff chwistrellau eu darparu mewn pecynnau o 60, a bydd y claf efallai ond yn defnyddio eu hanner ond gyda phresgripsiwn amlroddadwy, darperir mwy, sy'n arwain at bentyrru.
3. Darparwyd nifer o enghreifftiau yn dilyn adolygiad o achosion lle mae gan rai cleifion werth miloedd o bunnoedd o feddyginiaethau yn ormod yn eu cartrefi. Disgrifiwyd y costau fel rhai 'syfrdanol'.
4. Mae rhai cleifion yn teimlo'n amharod i wrthod gormod o feddyginiaeth rhag ofn efallai na fyddant yn gallu cael mwy yn ddiweddarach. Mae hyn yn broblem yn arbennig mewn meddygfeydd lle mae anawsterau cael mynediad at gyfleoedd i gynnal adolygiadau o bresgripsiynau a gall cleifion feddwl ei bod yn symlach cadw meddyginiaethau ar eu presgripsiynau.
5. Eglurodd y cyfranogwyr fod angen adolygu a diweddaru presgripsiynau'n gyson a hefyd bod tri phrif anhawster y mae angen mynd i'r afael â hwy, sef:
· Cleifion yn archebu meddyginiaethau nad oes eu hangen arnynt
· Presgripsiynau yn gymhleth a'r cyfathrebu â'r fferyllfa yn chwalu ar adegau
·
Nodiadau rhyddhau cleifion o'r ysbyty ddim yn
cyrraedd y meddyg teulu bob amser a gall camgymeriadau ddigwydd
gyda phresgripsiynau. Mae taflenni rhyddhau mewn llawer o
achosion yn dal i fod mewn llawysgrifen ac nid yw bob amser yn
bosibl i'r meddyg teulu eu darllen ac felly nid yw bob amser yn
glir a yw'r feddyginiaeth wedi'i hatal, ei chynyddu neu a oes
meddyginiaeth newydd wedi'i rhagnodi.
6.
Trafododd y cyfranogwyr y syniad o restru'r costau o
bob meddyginiaeth ar ddalen bresgripsiwn fel modd o godi
ymwybyddiaeth o'r costau dan sylw. Awgrymodd un cyfranogwr y
byddai hyn 'yn gam mawr ymlaen'.
7.
Symudodd y drafodaeth at gynllun sy'n cael ei
weithredu ar hyn o bryd drwy fferyllfeydd yng Nghaerdydd lle mae
fferyllfeydd yn cael taliad am nodi eitemau a ragnodir yn
ddiangen. Caiff hyn ei gyflawni drwy'r fferyllwyr yn gofyn
cwestiynau i'r cleifion am yr eitemau ar eu presgripsiwn ac a oes
angen yr holl eitemau. Mae adborth ar y cynllun wedi
bod yn gadarnhaol.
8.
Roedd y cyfranogwyr yn canolbwyntio ar bwysigrwydd
fferyllwyr yn gallu 'ymgysylltu wyneb yn wyneb' gyda chleifion i
wella effeithlonrwydd rheoli meddyginiaethau. Fodd bynnag,
nodwyd er bod gan fferyllwyr rôl allweddol, maent yn wynebu
rhai rhwystrau o ran cleifion sy'n gofyn pam mae'r fferyllydd yn eu
holi gan nad ydynt yn feddygon teulu. Nododd y cyfranogwyr hefyd
amharodrwydd cleifion i siarad â fferyllwyr yn fanwl ac nid
ydynt yn hoffi mynd i ystafelloedd ymgynghori lle gall materion
gael eu trafod yn breifat ac yn fwy manwl.
9. Cafodd cyfyngiadau ar amser fferyllwyr hefyd ei nodi fel rhwystr i ymgysylltu fwy â chleifion. Mae fferyllwyr mor brysur yn dosbarthu meddyginiaethau fel nad oes ganddynt amser i siarad â chleifion ac adolygu eu presgripsiynau gyda hwy. Cyfeiriwyd at arfer da yn Norwy, lle bydd fferyllwyr bob amser yn derbyn y presgripsiwn a bob amser yn ei ddosbarthu i'r claf fel y gall sgyrsiau ddigwydd.
10.
Cafodd y mater o ragnodi gwrthfiotigau ei godi ac
eglurodd y cyfranogwyr fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal
gyda Byrddau Iechyd i drafod rhagnodi gwrthfiotigau ac ymgymryd ag
ymarferion meincnodi. Eglurwyd mai Llanelli oedd un o'r
ardaloedd sy'n perfformio waethaf gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda o ran
y lefelau o wrthfiotigau a gaiff eu rhagnodi er y nodwyd bod hyn yn
adlewyrchiad o amddifadedd a demograffeg yn yr ardal yn hytrach nag
unrhyw ffactor arall.
11.
Mater allweddol o ran rhagnodi gwrthfiotigau yw
disgwyliadau cleifion a chynnydd amlwg mewn cleifion yn mynnu cael
gwrthfiotigau ac yn cynhyrfu pan gânt eu gwrthod. Bu cynnydd
amlwg mewn cleifion yn herio cyngor y meddyg teulu.
12.
Cafodd gwell cydamseru rhagnodi ei nodi fel ffordd
arall effeithiol o reoli gwastraff meddyginiaethau. Eglurwyd
fod achosion lle mae'n rhaid i gleifion archebu rhai
meddyginiaethau bob 28 diwrnod ac eraill bob 26 diwrnod. Mewn
achosion o'r fath, roedd presgripsiynau lluosog yn cael eu darparu
a oedd yn cynyddu'r cwmpas ar gyfer dyblygu a chamgymeriadau.
13.
Cyfeiriodd y cyfranogwyr at y cynnydd yn y
presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth i drin lefelau isel o iselder
ac na all defnydd cynyddol o'r fath barhau. Awgrymwyd fod y
rhan fwyaf o gleifion yn gofyn am feddyginiaeth i drin iselder yn
anhapus am resymau eraill ac nid oeddent yn cael diagnosis o
iselder clinigol. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar symud
tuag at 'ragnodi cymdeithasol' fel ffordd o fynd i'r afael
â'r mater hwn gyda meddygon teulu yn annog cleifion i gymryd
rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd cynllun yn cael
ei ddefnyddio yn Llanelli lle mae cleifion yn cael cyfleoedd i
ymgymryd â gwaith gwirfoddol yn gyfnewid am gredydau y gellir
eu gwario ar weithgareddau cymdeithasol amrywiol megis ymweliadau
â pharciau thema neu'r theatr. Y diben yw helpu unigolion i
ryngweithio a chael achlysuron cymdeithasol i edrych ymlaen
atynt.
14. Ystyriwyd rhagnodi cymdeithasol yn hanfodol bwysig gyda safbwynt nad oedd modd gwahanu anghenion meddyginiaethol a chymdeithasol. Awgrymwyd pe gallai anghenion cymdeithasol gael eu diwallu yn well y byddai hyn yn lleihau'r angen am feddyginiaeth.
15. Roedd rhai trafodaethau ynghylch dulliau a ddefnyddiwyd yn Lloegr lle mae rhagnodi cynhyrchion y gellir eu prynu, megis Calpol, paracetamol a chynnyrch heb glwten, wedi dod i ben. Fodd bynnag, mynegodd y cyfranogwyr bryderon y byddai dull o'r fath mewn ardaloedd tlotach yn golygu y byddai rhai pobl yn methu â fforddio'r cynhyrchion hyn ac yn cael eu gorfodi i fynd heb.
16. Ysgogodd hyn drafodaeth ar daliadau presgripsiwn lle roedd barn gymysg o blaid ac yn erbyn.